Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 15:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon,a newydd da yn adfywio'r corff.

31. Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywydyn aros yng nghwmni'r doeth.

32. Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gasáu ei hun,ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall.

33. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb,a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 15