Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 14:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl,a chaseir yr un dichellgar.

18. Ffolineb yw rhan y rhai gwirion,ond gwybodaeth yw coron y rhai call.

19. Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda,a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.

20. Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod,ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog.

21. Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu,ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.

22. Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni,ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?

23. Ym mhob llafur y mae elw,ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 14