4. Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr,ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn.
5. Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir,ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.
6. Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus,ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.
7. Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt,ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.
8. Canmolir rhywun ar sail ei ddeall,ond gwawdir y meddwl troëdig.
9. Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid,na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.
10. Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail,ond y mae'r drygionus yn ddidostur.
11. Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr.
12. Blysia'r drygionus am ysbail drygioni,ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr.
13. Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau,ond dianc y cyfiawn rhag adfyd.
14. Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni,a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.
15. Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg,ond gwrendy'r doeth ar gyngor.
16. Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo,ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.
17. Y mae tyst gonest yn dweud y gwir,ond celwydd a draetha'r gau dyst.
18. Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf,ond y mae tafod y doeth yn iacháu.