Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 12:20-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg,ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.

21. Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn,ond bydd y drygionus yn llawn helbul.

22. Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd.

23. Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth,ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb.

24. Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod,ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed.

25. Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun,ond llawenheir ef gan air caredig.

26. Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg,ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain.

27. Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa,ond gan y diwyd bydd golud mawr.

28. Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd,ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 12