Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 12:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau,ond dianc y cyfiawn rhag adfyd.

14. Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni,a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.

15. Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg,ond gwrendy'r doeth ar gyngor.

16. Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo,ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.

17. Y mae tyst gonest yn dweud y gwir,ond celwydd a draetha'r gau dyst.

18. Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf,ond y mae tafod y doeth yn iacháu.

19. Erys geiriau gwir am byth,ond ymadrodd celwyddog am eiliad.

20. Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg,ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.

21. Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn,ond bydd y drygionus yn llawn helbul.

22. Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd.

23. Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth,ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb.

24. Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod,ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 12