Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 10:27-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau,ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau.

28. Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd,ond derfydd gobaith y drygionus.

29. Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn,ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg.

30. Ni symudir y cyfiawn byth,ond nid erys y drygionus ar y ddaear.

31. Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,ond torrir ymaith y tafod twyllodrus.

32. Gŵyr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy,ond twyllodrus yw genau'r drygionus.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 10