22. Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth,ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi.
23. Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ffôl,ond doethineb yw hyfrydwch y deallus.
24. Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus,ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad.
25. Ar ôl y storm, ni bydd sôn am y drygionus,ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol.
26. Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid,felly y mae'r diogyn i'w feistr.
27. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau,ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau.
28. Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd,ond derfydd gobaith y drygionus.
29. Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn,ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg.
30. Ni symudir y cyfiawn byth,ond nid erys y drygionus ar y ddaear.
31. Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,ond torrir ymaith y tafod twyllodrus.
32. Gŵyr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy,ond twyllodrus yw genau'r drygionus.