17. Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd,ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod.
18. Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb,a ffôl yw'r un sy'n enllibio.
19. Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo,ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau.
20. Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol,ond diwerth yw calon yr un drwg.
21. Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer,ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr.
22. Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth,ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi.
23. Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ffôl,ond doethineb yw hyfrydwch y deallus.
24. Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus,ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad.