1. Dyma ddiarhebion Solomon:Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen,ond mab ffôl yn dwyn gofid i'w fam.
2. Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni,ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth.
3. Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu,ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg.
4. Y mae llaw segur yn dwyn tlodi,ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth.
5. Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus,ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod â chywilydd.
6. Bendithion sy'n disgyn ar y cyfiawn,ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
7. Y mae cofio'r cyfiawn yn dwyn bendith,ond y mae enw'r drwg yn diflannu.
8. Y mae'r doeth yn derbyn gorchymyn,ond y ffôl ei siarad yn cael ei ddifetha.
9. Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel,ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd.
10. Y mae wincio â'r llygad yn achosi helbul,ond cerydd agored yn peri heddwch.
11. Ffynnon bywyd yw geiriau'r cyfiawn,ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
12. Y mae casineb yn achosi cynnen,ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd.
13. Ar wefusau'r deallus ceir doethineb,ond rhoddir gwialen ar gefn y disynnwyr.
14. Y mae'r doeth yn trysori deall,ond dwyn dinistr yn agos a wna siarad ffôl.
15. Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,ond dinistr y tlawd yw ei dlodi.
16. Cyflog y cyfiawn yw bywyd,ond cynnyrch y drwg yw pechod.