Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 1:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth,ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.

8. Fy mab, gwrando ar addysg dy dad,paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam;

9. bydd yn dorch brydferth ar dy ben,ac yn gadwyn am dy wddf.

10. Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid,paid â chytuno â hwy.

11. Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni,inni gynllwynio i dywallt gwaed,a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed;

12. fel Sheol, llyncwn hwy'n fywac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll;

13. fe gymerwn bob math ar gyfoeth,a llenwi ein tai ag ysbail;

14. bwrw dy goelbren gyda ni,a bydd un pwrs rhyngom i gyd.”

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 1