Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 1:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel—

2. i gael doethineb ac addysg,i ddeall geiriau deallus,

3. i dderbyn addysg fuddiol,cyfiawnder, barn, ac uniondeb,

4. i roi craffter i'r gwirion,a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.

5. Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg,a'r deallus yn ennill medrusrwydd,

6. i ddeall dameg a'i dehongliad,dywediadau'r doeth a'u posau.

7. Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth,ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.

8. Fy mab, gwrando ar addysg dy dad,paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam;

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 1