Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 9:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Gweddïais ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd DDUW, paid â dinistrio dy bobl, dy etifeddiaeth a achubaist â'th gryfder trwy ddod â hwy allan o'r Aifft â llaw gadarn.

27. Cofia dy weision, Abraham, Isaac a Jacob; paid ag edrych ar ystyfnigrwydd, drygioni a phechod y bobl hyn,

28. rhag i drigolion y wlad y daethost â hwy allan ohoni ddweud, ‘Am ei fod yn methu mynd â hwy i'r wlad a addawodd iddynt, ac am ei fod yn eu casáu, y daeth yr ARGLWYDD â hwy allan i'w lladd yn yr anialwch.’

29. Ond dy bobl di ydynt, dy etifeddiaeth a ddygaist allan â'th nerth mawr ac â'th fraich estynedig.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 9