Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 8:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Cofiwch yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD eich Duw chwi yn ystod y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, gan eich darostwng a'ch profi er mwyn gwybod a oeddech yn bwriadu cadw ei orchmynion ai peidio.

3. Darostyngodd chwi a dwyn newyn arnoch; yna fe'ch porthodd â manna, nad oeddech chwi na'ch hynafiaid yn gwybod beth oedd, er mwyn eich dysgu nad ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bopeth sy'n dod o enau'r ARGLWYDD.

4. Ni threuliodd y dillad oedd amdanoch, ac ni chwyddodd eich traed yn ystod y deugain mlynedd hyn.

5. Ystyriwch fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu fel y mae tad yn disgyblu ei fab.

6. Cadwch orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i barchu;

7. oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn dod â chwi i wlad dda, gwlad ac ynddi ffrydiau dŵr, ffynhonnau, a chronfeydd yn tarddu yn y dyffrynnoedd ac ar y mynyddoedd;

8. gwlad lle mae gwenith a haidd, gwinwydd, ffigys a phomgranadau, olewydd a mêl;

9. gwlad lle cewch fwyta heb brinder, a lle ni bydd arnoch angen am ddim; gwlad y mae ei cherrig yn haearn a lle y byddwch yn cloddio copr o'i mynyddoedd.

10. Wedi ichwi fwyta a chael digon, byddwch yn bendithio'r ARGLWYDD eich Duw am y wlad dda y mae'n ei rhoi ichwi.

11. Gofalwch na fyddwch yn anghofio'r ARGLWYDD eich Duw nac yn gwrthod cadw ei orchmynion, ei gyfreithiau a'i ddeddfau, yr wyf yn eu gorchymyn ichwi heddiw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 8