Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 8:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Os dywedwch, “Ein nerth ein hunain a chryfder ein dwylo a ddaeth â'r cyfoeth hwn inni”,

18. yna cofiwch yr ARGLWYDD eich Duw, oherwydd ef sy'n rhoi nerth ichwi i ennill cyfoeth, er mwyn cadarnhau'r cyfamod a dyngodd i'ch hynafiaid, fel y mae heddiw.

19. Os byddwch yn anghofio'r ARGLWYDD eich Duw ac yn mynd ar ôl duwiau eraill ac yn eu gwasanaethu ac yn ymgrymu iddynt, yna yr wyf yn eich rhybuddio heddiw y byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr.

20. Fel y cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o'ch blaenau y dinistrir chwithau, am ichwi wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 8