Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 8:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gofalwch gadw'r holl orchmynion yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw, er mwyn ichwi fyw a chynyddu a mynd i feddiannu'r wlad y tyngodd yr ARGLWYDD y byddai'n ei rhoi i'ch hynafiaid.

2. Cofiwch yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD eich Duw chwi yn ystod y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, gan eich darostwng a'ch profi er mwyn gwybod a oeddech yn bwriadu cadw ei orchmynion ai peidio.

3. Darostyngodd chwi a dwyn newyn arnoch; yna fe'ch porthodd â manna, nad oeddech chwi na'ch hynafiaid yn gwybod beth oedd, er mwyn eich dysgu nad ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bopeth sy'n dod o enau'r ARGLWYDD.

4. Ni threuliodd y dillad oedd amdanoch, ac ni chwyddodd eich traed yn ystod y deugain mlynedd hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 8