Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:14-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac un o'th anifeiliaid, na'r estron sydd o fewn dy byrth, er mwyn i'th was a'th forwyn gael gorffwys fel ti dy hun.

15. Cofia iti fod yn gaethwas yng ngwlad yr Aifft, ac i'r ARGLWYDD dy Dduw dy arwain allan oddi yno â llaw gadarn a braich estynedig; am hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti gadw'r dydd Saboth.

16. “Anrhydedda dy dad a'th fam, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti, er mwyn amlhau dy ddyddiau ac fel y bydd yn dda arnat yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti.

17. “Na ladd.

18. “Na odineba.

19. “Na ladrata.

20. “Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

21. “Na chwennych wraig dy gymydog, na dymuno cael tŷ dy gymydog, na'i dir, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”

22. Llefarodd yr ARGLWYDD y geiriau hyn â llais uchel wrth eich holl gynulliad ar y mynydd o ganol y tân, y cwmwl a'r tywyllwch, ac nid ychwanegodd ddim atynt. Yna ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen garreg, a'u rhoi i mi.

23. Pan glywsoch y llais o ganol y tywyllwch, a'r mynydd ar dân, yna daeth penaethiaid eich llwythau a'ch henuriaid ataf,

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5