44. Dyma'r gyfraith a osododd Moses gerbron yr Israeliaid.
45. A dyma'r rheolau, y deddfau a'r cyfreithiau a lefarodd Moses wrth yr Israeliaid, wedi iddynt ddod allan o'r Aifft,
46. pan oeddent y tu hwnt i'r Iorddonen yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor yng ngwlad Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon ac a orchfygwyd gan Moses a'r Israeliaid ar eu taith allan o'r Aifft.
47. Cymerasant ei wlad ef a gwlad Og brenin Basan, dau frenin yr Amoriaid oedd yn y dwyrain, yn y diriogaeth y tu hwnt i'r Iorddonen.
48. Yr oedd y diriogaeth yn ymestyn o Aroer, ar lan nant Arnon, at Fynydd Sirion, sef Hermon,
49. ac yn cynnwys y cyfan o'r Araba i'r dwyrain o'r Iorddonen, hyd at fôr yr Araba islaw llethrau Pisga.