Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:43-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Bloeddiwch fawl ei bobl, O genhedloedd,oherwydd y mae'n dial gwaed ei weision!Daw â dial ar ei wrthwynebwyr,ac arbed ei dir a'i bobl ei hun.

44. Wedi i Moses ddod gyda Josua fab Nun, llefarodd holl eiriau'r gerdd hon yng nghlyw'r bobl.

45. Pan orffennodd Moses lefaru'r holl eiriau hyn wrth Israel gyfan,

46. meddai wrthynt, “Ystyriwch yn eich calon yr holl eiriau yr wyf yn eu hargymell ichwi heddiw, er mwyn ichwi eu gorchymyn i'ch plant, ac iddynt hwythau ofalu cadw holl eiriau'r gyfraith hon.

47. Oherwydd nid gair dibwys yw hwn i chwi, ond dyma eich bywyd; trwy'r gair hwn yr estynnwch eich dyddiau yn y wlad yr ydych ar fynd dros yr Iorddonen i'w meddiannu.”

48. Yn ystod yr un diwrnod llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,

49. “Dos i fyny yma i fynydd-dir Abarim, i Fynydd Nebo yng ngwlad Moab, gyferbyn â Jericho; ac yna edrych ar wlad Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid yn etifeddiaeth.

50. Yno, ar y mynydd y byddi'n ei ddringo, y byddi farw, ac y cesglir di at dy bobl, fel y bu i'th frawd Aaron farw ym Mynydd Hor, a'i gasglu at ei bobl,

51. am ichwi fod yn anffyddlon imi yng nghanol yr Israeliaid wrth ddyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin, trwy beidio â mynegi fy sancteiddrwydd ymysg yr Israeliaid.

52. Fe gei weld y wlad yn y pellter, ond ni chei ddod drosodd i'r wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32