Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:38-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. y duwiau oedd yn bwyta braster eu hebyrthac yn yfed gwin eu diodoffrwm?Bydded iddynt hwy godi a'ch helpu,a bod yn lloches ichwi!

39. Gwelwch yn awr mai myfi, myfi yw Ef,ac nad oes Duw ond myfi.Myfi sy'n lladd, a gwneud yn fyw,myfi sy'n archolli, ac yn iacháu;ni all neb achub o'm gafael i.

40. “Codaf fy llaw tua'r nef, a dweud:Cyn sicred â'm bod yn byw'n dragywydd,

41. os hogaf fy nghleddyf disglair,a chydio ynddo â'm llaw mewn barn,byddaf yn dial ar fy ngwrthwynebwyrac yn talu'r pwyth i'r rhai sy'n fy nghasáu.

42. Gwnaf fy saethau yn feddw â gwaed,a bydd fy nghleddyf yn bwyta cnawd,sef gwaed y clwyfedig a'r carcharorion,a phennau arweinwyr y gelyn.”

43. Bloeddiwch fawl ei bobl, O genhedloedd,oherwydd y mae'n dial gwaed ei weision!Daw â dial ar ei wrthwynebwyr,ac arbed ei dir a'i bobl ei hun.

44. Wedi i Moses ddod gyda Josua fab Nun, llefarodd holl eiriau'r gerdd hon yng nghlyw'r bobl.

45. Pan orffennodd Moses lefaru'r holl eiriau hyn wrth Israel gyfan,

46. meddai wrthynt, “Ystyriwch yn eich calon yr holl eiriau yr wyf yn eu hargymell ichwi heddiw, er mwyn ichwi eu gorchymyn i'ch plant, ac iddynt hwythau ofalu cadw holl eiriau'r gyfraith hon.

47. Oherwydd nid gair dibwys yw hwn i chwi, ond dyma eich bywyd; trwy'r gair hwn yr estynnwch eich dyddiau yn y wlad yr ydych ar fynd dros yr Iorddonen i'w meddiannu.”

48. Yn ystod yr un diwrnod llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,

49. “Dos i fyny yma i fynydd-dir Abarim, i Fynydd Nebo yng ngwlad Moab, gyferbyn â Jericho; ac yna edrych ar wlad Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid yn etifeddiaeth.

50. Yno, ar y mynydd y byddi'n ei ddringo, y byddi farw, ac y cesglir di at dy bobl, fel y bu i'th frawd Aaron farw ym Mynydd Hor, a'i gasglu at ei bobl,

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32