Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:31-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Oherwydd nid yw eu craig hwy yn debyg i'n Craig ni,fel y mae ein gelynion yn cydnabod.

32. Daw eu gwinwydd o Sodomac o feysydd Gomorra;grawnwin gwenwynig sydd arnynt,yn sypiau chwerw.

33. Gwenwyn seirff yw eu gwin,poeryn angheuol asbiaid.

34. Onid yw hyn gennyf wrth gefn,wedi ei selio yn fy stôr,

35. mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth,pan fydd eu troed yn llithro?Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos,a'u distryw yn brysio atynt.

36. Rhydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobla bydd yn trugarhau wrth ei weision,pan wêl fod eu nerth wedi darfod,ac nad oes ar ôl na chaeth na rhydd.

37. Yna fe ddywed, “Ble mae eu duwiau,y graig y buont yn ceisio lloches dani,

38. y duwiau oedd yn bwyta braster eu hebyrthac yn yfed gwin eu diodoffrwm?Bydded iddynt hwy godi a'ch helpu,a bod yn lloches ichwi!

39. Gwelwch yn awr mai myfi, myfi yw Ef,ac nad oes Duw ond myfi.Myfi sy'n lladd, a gwneud yn fyw,myfi sy'n archolli, ac yn iacháu;ni all neb achub o'm gafael i.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32