Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Bydd fy nysgeidiaeth yn disgyn fel glaw,a'm hymadrodd yn diferu fel gwlith,fel glaw mân ar borfa,megis cawodydd ar laswellt.

3. Pan gyhoeddaf enw yr ARGLWYDD,cyffeswch fawredd ein Duw.

4. Ef yw'r Graig; perffaith yw ei waith,a chyfiawn yw ei ffyrdd bob un.Duw ffyddlon heb dwyll yw;un cyfiawn ac uniawn yw ef.

5. Y genhedlaeth wyrgam a throfaus,sy'n ymddwyn mor llygredig tuag ato,nid ei blant ef ydynt o gwbl!

6. Ai dyma eich tâl i'r ARGLWYDD,O bobl ynfyd ac angall?Onid ef yw dy dad, a'th luniodd,yr un a'th wnaeth ac a'th sefydlodd?

7. Cofia'r dyddiau gynt,ystyria flynyddoedd y cenedlaethau a fu;gofyn i'th dad, ac fe fynega ef iti;neu i'th hynafgwyr, ac fe ddywedant hwy wrthyt.

8. Pan roddodd y Goruchaf eu hetifeddiaeth i'r cenhedloedd,a gwasgaru'r ddynoliaeth ar led,fe bennodd derfynau'r bobloeddyn ôl rhifedi plant Duw.

9. Ei bobl ei hun oedd rhan yr ARGLWYDD,Jacob oedd ei etifeddiaeth ef.

10. Fe'i cafodd ef mewn gwlad anial,mewn gwagle erchyll, diffaith;amgylchodd ef a'i feithrin,amddiffynnodd ef fel cannwyll ei lygad.

11. Fel eryr yn cyffroi ei nythac yn hofran uwch ei gywion,lledai ei adenydd a'u cymryd ato,a'u cludo ar ei esgyll.

12. Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain,heb un duw estron gydag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32