Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yr ARGLWYDD dy Dduw ei hun fydd yn mynd drosodd ac yn distrywio'r cenhedloedd hyn o'th flaen, a byddi dithau'n meddiannu eu tir dan arweiniad Josua, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.

4. Fe wna'r ARGLWYDD iddynt fel y gwnaeth i Sihon ac Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i'w gwlad pan ddistrywiodd hwy.

5. Rhydd yr ARGLWYDD hwy yn dy ddwylo, a gwna dithau iddynt yn ôl y cwbl a orchmynnais iti.

6. Bydd yn gryf a dewr; paid â'u hofni na dychryn rhagddynt, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn mynd gyda thi, ac ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat.

7. Wedi i Moses alw Josua, dywedodd wrtho gerbron Israel gyfan, “Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i fynd â'r bobl hyn i'r wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'w hynafiaid y byddai'n ei rhoi iddynt; a thi sydd i roi iddynt feddiant ohoni.

8. Bydd yr ARGLWYDD yn mynd o'th flaen, a bydd ef gyda thi; ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat. Paid ag ofni na dychryn.”

9. Ysgrifennodd Moses y gyfraith hon a'i rhoi i'r offeiriaid, meibion Lefi, a oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i holl henuriaid Israel hefyd.

10. Gorchmynnodd Moses iddynt, “Ar ddiwedd pob saith mlynedd, yr adeg a bennir yn flwyddyn gollyngdod, ar ŵyl y Pebyll,

11. pan fydd Israel gyfan yn dod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd yn ei ddewis, yr wyt ti i gyhoeddi'r gyfraith hon yng ngŵydd ac yng nghlyw Israel gyfan.

12. Cynnull y bobl, yn wŷr, gwragedd a phlant, a'r dieithriaid sy'n byw yn dy drefi, er mwyn iddynt glywed, a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a gofalu gwneud popeth yn y gyfraith hon.

13. Y mae eu plant hefyd, nad ydynt yn ei gwybod, i wrando arni a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw tra byddant yn byw yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31