Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:20-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Wedi imi ddod â hwy i'r tir a addewais i'w hynafiaid, tir yn llifeirio o laeth a mêl, lle y cânt fwyta'u gwala a phesgi, byddant yn troi at dduwiau estron ac yn eu gwasanaethu, ond byddant yn fy nirmygu i ac yn torri fy nghyfamod.

21. Yna, pan ddaw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr, bydd y gerdd hon yn dyst yn eu herbyn; oherwydd nid â'n angof gan eu disgynyddion. Ond gwn beth y maent eisoes yn bwriadu ei wneud, cyn imi eu dwyn i mewn i'r wlad a addewais iddynt.”

22. Ysgrifennodd Moses y gerdd hon y diwrnod hwnnw, a dysgodd hi i'r Israeliaid.

23. A rhoddodd yr ARGLWYDD orchymyn i Josua fab Nun a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i ddod â'r Israeliaid i'r wlad a addewais iddynt; a byddaf fi gyda thi.”

24. Pan orffennodd Moses ysgrifennu geiriau'r gyfraith hon mewn llyfr, o'r dechrau i'r diwedd,

25. rhoddodd i'r Lefiaid, a oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD, y gorchymyn hwn:

26. “Cymerwch y llyfr cyfraith hwn, a rhowch ef wrth ochr arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, i aros yno'n dyst yn eich erbyn;

27. oherwydd gwn mor wrthnysig a gwargaled ydych. Yn wir, os ydych yn wrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD heddiw, a minnau'n dal yn fyw yn eich mysg, pa faint mwy felly y byddwch wedi imi farw!

28. Casglwch ataf holl henuriaid a swyddogion eich llwythau, er mwyn imi lefaru'r geiriau hyn yn eu clyw, a galw nef a daear yn dystion yn eu herbyn.

29. Gwn y byddwch, wedi imi farw, yn ymddwyn yn gwbl lygredig, gan gilio o'r ffordd a orchmynnais ichwi; felly, fe ddaw dinistr ar eich gwarthaf yn y dyddiau sy'n dod, am ichwi wneud yr hyn sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i ddigio â gwaith eich dwylo.”

30. Llefarodd Moses eiriau'r gerdd hon, o'i dechrau i'w diwedd, yng nghlyw holl gynulliad Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31