Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:17-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yna fe enynnir fy nig yn eu herbyn, a byddaf finnau yn eu gwrthod ac yn cuddio fy wyneb rhagddynt; byddant yn barod i'w difa, a daw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr. Y diwrnod hwnnw fe ddywedant, ‘Onid am nad yw ein Duw yn ein plith y daeth y drygau hyn i'n rhan?’

18. A byddaf fi'n cuddio fy wyneb yn llwyr rhagddynt y diwrnod hwnnw, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaethant wrth droi at dduwiau estron.

19. “Yn awr, ysgrifennwch y gerdd hon a'i dysgu i'r Israeliaid, a pheri iddynt ei hadrodd, fel y bydd yn dyst gennyf yn eu herbyn.

20. Wedi imi ddod â hwy i'r tir a addewais i'w hynafiaid, tir yn llifeirio o laeth a mêl, lle y cânt fwyta'u gwala a phesgi, byddant yn troi at dduwiau estron ac yn eu gwasanaethu, ond byddant yn fy nirmygu i ac yn torri fy nghyfamod.

21. Yna, pan ddaw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr, bydd y gerdd hon yn dyst yn eu herbyn; oherwydd nid â'n angof gan eu disgynyddion. Ond gwn beth y maent eisoes yn bwriadu ei wneud, cyn imi eu dwyn i mewn i'r wlad a addewais iddynt.”

22. Ysgrifennodd Moses y gerdd hon y diwrnod hwnnw, a dysgodd hi i'r Israeliaid.

23. A rhoddodd yr ARGLWYDD orchymyn i Josua fab Nun a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i ddod â'r Israeliaid i'r wlad a addewais iddynt; a byddaf fi gyda thi.”

24. Pan orffennodd Moses ysgrifennu geiriau'r gyfraith hon mewn llyfr, o'r dechrau i'r diwedd,

25. rhoddodd i'r Lefiaid, a oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD, y gorchymyn hwn:

26. “Cymerwch y llyfr cyfraith hwn, a rhowch ef wrth ochr arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, i aros yno'n dyst yn eich erbyn;

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31