Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna aeth Moses ymlaen a llefaru'r geiriau hyn wrth Israel gyfan:

2. Yr wyf fi bellach yn gant ac ugain oed. Ni fedraf fynd a dod fel yr arferwn wneud, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthyf na chaf groesi'r Iorddonen hon.

3. Yr ARGLWYDD dy Dduw ei hun fydd yn mynd drosodd ac yn distrywio'r cenhedloedd hyn o'th flaen, a byddi dithau'n meddiannu eu tir dan arweiniad Josua, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.

4. Fe wna'r ARGLWYDD iddynt fel y gwnaeth i Sihon ac Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i'w gwlad pan ddistrywiodd hwy.

5. Rhydd yr ARGLWYDD hwy yn dy ddwylo, a gwna dithau iddynt yn ôl y cwbl a orchmynnais iti.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31