Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 30:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Pe byddit wedi dy yrru i'r cwr pellaf dan y nef, byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy gasglu ac yn dy gymryd oddi yno.

5. Daw'r ARGLWYDD dy Dduw â thi i'r wlad a feddiannodd dy hynafiaid, a byddi dithau'n ei meddiannu; bydd ef yn dy lwyddo ac yn dy wneud yn fwy niferus na'th hynafiaid.

6. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn enwaedu dy galon, a chalonnau dy ddisgynyddion, er mwyn iti garu yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid, fel y byddi fyw.

7. A bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn gosod yr holl felltithion hyn ar dy elynion a'th gaseion, a fu'n dy erlid.

8. Byddi di unwaith eto'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD ac yn cadw ei holl orchmynion, y rhai yr wyf fi'n eu rhoi iti heddiw.

9. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn peri iti lwyddo'n helaeth ym mhopeth a wnei, ac yn ffrwyth dy gorff, a chynnydd dy fuches a chnwd dy dir; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn ymhyfrydu eto ynot er dy les, fel y bu'n ymhyfrydu yn dy hynafiaid,

10. dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw i gadw ei orchmynion a'i reolau, a ysgrifennwyd yn y llyfr cyfraith hwn, a dychwelyd at yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid.

11. Nid yw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw yn rhy anodd iti nac allan o'th gyrraedd.

12. Nid rhywbeth yn y nefoedd yw, iti ddweud, “Pwy a â i fyny i'r nefoedd ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 30