Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 30:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw i gadw ei orchmynion a'i reolau, a ysgrifennwyd yn y llyfr cyfraith hwn, a dychwelyd at yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid.

11. Nid yw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw yn rhy anodd iti nac allan o'th gyrraedd.

12. Nid rhywbeth yn y nefoedd yw, iti ddweud, “Pwy a â i fyny i'r nefoedd ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?”

13. Nid rhywbeth y tu hwnt i'r môr yw ychwaith, iti ddweud, “Pwy a â dros y môr ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?”

14. Y mae'r gair yn agos iawn atat; y mae yn dy enau ac yn dy galon, er mwyn iti ei wneud.

15. Edrych, yr wyf am roi'r dewis iti heddiw rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng daioni a drygioni.

16. Oherwydd yr wyf fi heddiw yn gorchymyn iti garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd, a chadw ei orchmynion, ei reolau a'i ddeddfau; yna byddi fyw, a chei amlhau, a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn y wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu.

17. Ond os byddi'n troi i ffwrdd ac yn peidio â gwrando, ac yn cael dy ddenu i addoli a gwasanaethu duwiau estron,

18. yna, dyma fi'n dweud wrthyt heddiw, fe'th lwyr ddifodir di, ac nid estynnir dy ddyddiau yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 30