Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 3:17-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. a hefyd yr Araba, a'r Iorddonen yn derfyn iddo, o Cinnereth hyd at fôr yr Araba, sef y Môr Marw, islaw llethrau Pisga i'r dwyrain.

18. Yr adeg honno gorchmynnais i chwi, a dweud, “Y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi ichwi'r wlad hon i'w meddiannu; yr ydych chwi'r holl ddynion arfog a chryf i groesi o flaen eich pobl, yr Israeliaid.

19. Ond y mae eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid—a gwn fod gennych lawer o anifeiliaid—i aros yn y trefi a roddais i chwi

20. nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel y rhoddodd i chwi; yna byddant hwythau yn meddiannu'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw iddynt y tu hwnt i'r Iorddonen. Yna caiff pob un ohonoch fynd yn ôl i'r diriogaeth a roddais i chwi.”

21. Yr adeg honno hefyd gorchmynnais i Josua a dweud, “Yr wyt wedi gweld â'th lygaid dy hun yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r ddau frenin hyn; bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'r holl deyrnasoedd yr wyt ti yn mynd i'w herbyn.

22. Paid â'u hofni, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd trosoch.”

23. Yr adeg honno ymbiliais â'r ARGLWYDD, a dweud,

24. “O Arglwydd DDUW, yr wyt wedi dechrau dangos i'th was dy fawredd a'th law gref, oherwydd pa dduw yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n cyflawni gweithredoedd a gorchestion fel dy rai di?

25. Gad imi groesi a gweld y wlad dda y tu hwnt i'r Iorddonen, y mynydd-dir da hwn, a Lebanon.”

26. Ond yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf o'ch achos chwi, ac ni wrandawodd arnaf. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dyna ddigon; paid â siarad wrthyf eto am hyn.

27. Dos i ben Pisga, ac edrych i'r gorllewin, y gogledd, y de a'r dwyrain, a sylwa'n fanwl, oherwydd ni chei di groesi'r Iorddonen hon.

28. Cyfarwydda Josua, a'i nerthu a'i gefnogi, oherwydd ef fydd yn croesi o flaen y bobl hyn, ac ef fydd yn eu harwain i feddiannu'r wlad yr wyt ti yn ei gweld.”

29. Felly bu inni aros yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 3