Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:14-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Paid â gwyro i'r dde na'r chwith oddi wrth yr un o'r pethau yr wyf fi'n eu gorchymyn iti heddiw, na dilyn duwiau estron i'w haddoli.

15. Ac os na fyddi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i ofalu cyflawni ei holl orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw, yna fe ddaw i'th ran yr holl felltithion hyn, ac fe'th amgylchant:

16. Melltith arnat yn y dref ac yn y maes.

17. Melltith ar dy gawell a'th badell dylino.

18. Melltith ar ffrwyth dy gorff a chnwd dy dir, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid.

19. Melltith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan.

20. Bydd yr ARGLWYDD yn anfon arnat felltithion, dryswch, a cherydd ym mha beth bynnag yr wyt yn ei wneud, nes dy ddinistrio a'th ddifetha'n gyflym oherwydd drygioni dy waith yn ei wrthod.

21. Bydd yr ARGLWYDD yn peri i haint lynu wrthyt nes dy ddifa oddi ar y tir yr wyt yn mynd iddo i'w feddiannu.

22. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â darfodedigaeth, twymyn, llid a chryd; â sychder hefyd a deifiant a malltod. Bydd y rhain yn dy ddilyn nes dy ddifodi.

23. Bydd yr wybren uwch dy ben yn bres, a'r ddaear oddi tanat yn haearn.

24. Bydd yr ARGLWYDD yn troi glaw dy dir yn llwch a lludw, a hynny'n disgyn arnat o'r awyr nes dy ddifa.

25. Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddryllio o flaen d'elynion; byddi'n mynd allan yn eu herbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagddynt ar hyd saith, a bydd hyn yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.

26. Bydd dy gelain yn bwydo holl adar yr awyr a bwystfilod y ddaear, heb neb i'w tarfu.

27. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â chornwyd yr Aifft a chornwydydd gwaedlyd, â chrach ac ysfa na fedri gael iachâd ohonynt.

28. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â gwallgofrwydd, dallineb a dryswch meddwl;

29. a byddi'n ymbalfalu ar hanner dydd, fel y bydd y dall yn ymbalfalu mewn tywyllwch, heb lwyddo i gael dy ffordd. Cei dy orthrymu a'th ysbeilio'n feunyddiol heb neb i'th achub.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28