Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 26:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan ddoi i'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti'n etifeddiaeth, a thithau'n ei meddiannu ac yn byw ynddi,

2. yna cymer o flaenffrwyth holl gnydau'r tir y byddi'n eu casglu yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a gosod hwy mewn cawell, a mynd i'r lle y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.

3. Dos at yr offeiriad a fydd yr adeg honno, a dywed wrtho, “Yr wyf heddiw'n datgan gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw imi ddod i'r wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi inni.”

4. Yna fe gymer yr offeiriad y cawell o'th law, a'i osod gerbron allor yr ARGLWYDD dy Dduw.

5. Yr wyt tithau wedyn i ddweud gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, “Aramead ar grwydr oedd fy nhad; aeth i lawr i'r Aifft gyda mintai fechan, a byw yno'n ddieithryn, ond tyfodd yn genedl fawr, rymus a lluosog.

6. Yna bu'r Eifftiaid yn ein cam-drin a'n cystuddio a'n cadw mewn caethiwed caled.

7. Wedi inni weiddi ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, fe glywodd ein cri, a gwelodd ein cystudd a'n llafur caled a'n gorthrwm.

8. Daeth â ni allan o'r Aifft â llaw gadarn a braich estynedig, a chyda dychryn mawr a chydag arwyddion a rhyfeddodau.

9. Daeth â ni i'r lle hwn, a rhoi inni'r wlad hon, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

10. Ac yn awr dyma fi'n dod â blaenffrwyth cnydau'r tir a roddaist imi, O ARGLWYDD.” Rho'r cawell i lawr gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, a moesymgryma o'i flaen.

11. Yr wyt ti a'r Lefiad, a'r dieithryn fydd yno gyda thi, i lawenhau am yr holl bethau da a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti a'th deulu.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 26