Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 24:3-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. a hwnnw wedyn yn ei chasáu ac yn ysgrifennu llythyr ysgar iddi, a'i roi yn ei llaw a'i hanfon o'i dŷ, neu os bydd yr ail ŵr yn marw,

4. yna ni all ei phriod cyntaf, a oedd wedi ei hysgaru, ei hailbriodi wedi iddi gael ei halogi. Byddai hynny'n beth ffiaidd gerbron yr ARGLWYDD, ac nid ydych i ddwyn pechod ar y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n feddiant ichwi.

5. Os bydd dyn newydd briodi, nid yw i fynd i ffwrdd gyda'r fyddin nac ar ddyletswyddau eraill; y mae'n rhydd i aros gartref am flwyddyn gron a bod yn llawen gyda'i wraig.

6. Nid yw neb i gymryd melin na maen uchaf melin yn wystl, oherwydd byddai'n cymryd bywoliaeth rhywun yn wystl.

7. Os ceir bod rhywun wedi herwgipio un o'i gydwladwyr yn Israel, a'i amddifadu o'i hawliau trwy ei werthu, yna y mae'r herwgipiwr hwnnw i farw; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.

8. Mewn achos o wahanglwyf, gofalwch wneud popeth yn ôl fel y bydd yr offeiriaid o Lefiaid yn eich cyfarwyddo; gofalwch wneud yn union fel y gorchmynnais i iddynt.

9. Cofiwch yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam wrth ichwi ddod o'r Aifft.

10. Os byddi'n rhoi benthyg unrhyw beth i'th gymydog, paid â mynd i mewn i'w dŷ i gymryd ei wystl.

11. Saf y tu allan, a gad i'r sawl yr wyt yn rhoi benthyg iddo ddod â'i wystl allan atat.

12. Os yw'n dlawd, paid â chysgu yn y dilledyn a roddodd yn wystl;

13. gofala ei roi'n ôl iddo cyn machlud haul, er mwyn iddo gysgu yn ei fantell a'th fendithio. Cyfrifir hyn iti'n gyfiawnder gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.

14. Paid â gorthrymu gwas cyflog anghenus a thlawd, boed gydwladwr neu ddieithryn yn un o drefi dy wlad.

15. Rho ei gyflog iddo bob dydd cyn i'r haul fachlud, rhag iddo achwyn arnat wrth yr ARGLWYDD ac i ti dy gael yn euog o bechod, oherwydd y mae'n anghenus ac yn dibynnu arno.

16. Nid yw rhieni i'w rhoi i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir rhywun i farwolaeth.

17. Nid wyt i wyro barn yn achos dieithryn nac amddifad, nac i gymryd dilledyn y weddw fel gwystl.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 24