Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 21:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. a thystio, “Nid ein dwylo ni a dywalltodd y gwaed hwn, ac ni welodd ein llygaid mo'r weithred.

8. Derbyn gymod dros dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O ARGLWYDD; paid â gosod arnynt hwy gyfrifoldeb am waed y dieuog.” Felly, gwneir cymod am y gwaed.

9. Byddi'n dileu'r cyfrifoldeb am waed dieuog o'ch mysg wrth iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

10. Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn d'elynion, a'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi yn dy law, a thithau'n cymryd carcharorion,

11. ac yn gweld yn eu mysg ddynes brydferth wrth dy fodd, cei ei phriodi.

12. Tyrd â hi adref, a gwna iddi eillio'i phen, naddu ei hewinedd,

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 21