Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 20:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Pan fydd tref dan warchae gennyt am amser maith, a thithau'n ymladd i'w hennill, paid â difa ei choed trwy eu torri â bwyell. Cei fwyta o'u ffrwyth, ond paid â'u torri i lawr. Ai pobl yw coed y maes, iti osod gwarchae yn eu herbyn?

20. Dim ond coeden y gwyddost nad yw'n dwyn ffrwyth y cei ei difa a'i thorri, er mwyn iti godi gwrthglawdd rhyngot a'r ddinas sy'n rhyfela yn dy erbyn, nes y bydd honno wedi ei gorchfygu.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 20