Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 20:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Pan fyddi ar fin brwydro yn erbyn tref, cynnig delerau heddwch iddi.

11. Os derbyniant y telerau heddwch ac agor y pyrth iti, yna bydd pawb a geir ynddi yn gweithio iti dan lafur gorfod.

12. Os na dderbyniant delerau heddwch, ond dechrau rhyfela yn dy erbyn, yna gwarchae ar y dref;

13. a phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi yn dy law, lladd bob gwryw ynddi â'r cleddyf.

14. Ond cymer yn anrhaith y gwragedd, y plant, yr anifeiliaid a phopeth arall o ysbail sydd yn y dref; defnyddia i ti dy hun yr ysbail oddi wrth d'elynion y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi iti.

15. Dyna sut y gwnei i'r holl drefi sydd ymhellach oddi wrthyt na rhai'r cenhedloedd gerllaw.

16. Nid wyt i arbed unrhyw greadur byw yn ninasoedd y bobloedd hynny y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti'n etifeddiaeth.

17. Yr wyt i lwyr ddifodi'r Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw,

18. rhag iddynt dy ddysgu i wneud yr holl ffieidd-dra a wnânt hwy er mwyn eu duwiau, ac i ti bechu yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw.

19. Pan fydd tref dan warchae gennyt am amser maith, a thithau'n ymladd i'w hennill, paid â difa ei choed trwy eu torri â bwyell. Cei fwyta o'u ffrwyth, ond paid â'u torri i lawr. Ai pobl yw coed y maes, iti osod gwarchae yn eu herbyn?

20. Dim ond coeden y gwyddost nad yw'n dwyn ffrwyth y cei ei difa a'i thorri, er mwyn iti godi gwrthglawdd rhyngot a'r ddinas sy'n rhyfela yn dy erbyn, nes y bydd honno wedi ei gorchfygu.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 20