Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 17:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Dwylo'r tystion sydd i daflu'r garreg gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo'r holl boblogaeth wedyn; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.

8. Os cei yn dy dref achos llys sy'n rhy ddyrys iti, megis dyfarnu rhwng dwy blaid mewn achos o ddial gwaed, neu hawl, neu ymosod, yna dos yn ddi-oed i'r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis,

9. a gofyn yno i'r offeiriaid o Lefiaid, ac i'r barnwr a fydd yn y dyddiau hynny, roi'r ddedfryd iti.

10. Gwna fel y byddant hwy yn dweud wrthyt yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis, a gofala wneud popeth yn ôl y cyfarwyddyd a roddant iti.

11. Yr wyt i weithredu yn ôl y cyfarwyddyd a gei ganddynt a'r dyfarniad a roddant, heb wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth yr hyn a ddywedant wrthyt.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 17