Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 17:5-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. yna tyrd â'r dyn neu'r ddynes sydd wedi gwneud y peth drygionus hwn allan i'r porth, a'i labyddio'n gelain â cherrig.

6. Ar dystiolaeth dau dyst neu dri y rhoir i farwolaeth; ni roir i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst.

7. Dwylo'r tystion sydd i daflu'r garreg gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo'r holl boblogaeth wedyn; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.

8. Os cei yn dy dref achos llys sy'n rhy ddyrys iti, megis dyfarnu rhwng dwy blaid mewn achos o ddial gwaed, neu hawl, neu ymosod, yna dos yn ddi-oed i'r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis,

9. a gofyn yno i'r offeiriaid o Lefiaid, ac i'r barnwr a fydd yn y dyddiau hynny, roi'r ddedfryd iti.

10. Gwna fel y byddant hwy yn dweud wrthyt yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis, a gofala wneud popeth yn ôl y cyfarwyddyd a roddant iti.

11. Yr wyt i weithredu yn ôl y cyfarwyddyd a gei ganddynt a'r dyfarniad a roddant, heb wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth yr hyn a ddywedant wrthyt.

12. Pwy bynnag sy'n ddigon rhyfygus i beidio â gwrando ar yr offeiriad sy'n gweinyddu yno dros yr ARGLWYDD dy Dduw, neu ar y barnwr, bydded farw; felly y byddi'n dileu'r drwg o Israel.

13. Bydd y bobl i gyd yn clywed, a daw ofn arnynt, ac ni ryfygant mwyach.

14. Pan ddoi i'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a'i meddiannu a byw ynddi, ac yna dweud, “Yr wyf am gymryd brenin, fel yr holl genhedloedd o'm hamgylch”,

15. yna'n wir cei gymryd y brenin y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis; ond un o blith dy frodyr yr wyt i'w gymryd yn frenin; ni elli ddewis dyn estron nad yw o blith dy frodyr.

16. Nid yw'r brenin i amlhau meirch iddo'i hun, nac i yrru ei bobl yn ôl i'r Aifft er mwyn hynny, gan fod yr ARGLWYDD wedi eich gwahardd rhag dychwelyd ar hyd y ffordd honno.

17. Ac nid yw i luosogi gwragedd, rhag i'w galon fynd ar gyfeiliorn, nac i amlhau arian ac aur yn ormodol.

18. Pan ddaw i eistedd ar orsedd ei deyrnas, y mae i arwyddo copi iddo'i hun o'r gyfraith hon mewn llyfr yng ngŵydd yr offeiriaid o Lefiaid.

19. A bydd hwnnw ganddo i'w ddarllen holl ddyddiau ei fywyd, er mwyn iddo ddysgu ofni'r ARGLWYDD ei Dduw a chadw holl eiriau'r gyfraith hon, a gwneud yn ôl y rheolau hyn,

20. rhag iddo ei ystyried ei hun yn uwch na'i gymrodyr, neu rhag iddo wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth y gorchymyn, ac er mwyn iddo estyn dyddiau ei frenhiniaeth yn Israel iddo'i hun a'i ddisgynyddion.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 17