Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 17:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid ag aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw nac ych na dafad ag unrhyw nam na dim difrifol arno, oherwydd y mae hynny'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw.

2. Os ceir yn un o'r trefi y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti ddyn neu ddynes yn eich mysg sy'n gwneud yr hyn sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD dy Dduw trwy droseddu yn erbyn ei gyfamod,

3. a'i fod, yn groes i'm gorchymyn, yn gwasanaethu ac yn addoli duwiau estron, p'run ai'r haul neu'r lloer neu holl lu'r nef,

4. yna os clywi si am hyn, yr wyt i chwilio'n ddyfal; ac os yw'n wir ac yn sicr fod y ffieidd-dra hwn wedi ei gyflawni yn Israel,

5. yna tyrd â'r dyn neu'r ddynes sydd wedi gwneud y peth drygionus hwn allan i'r porth, a'i labyddio'n gelain â cherrig.

6. Ar dystiolaeth dau dyst neu dri y rhoir i farwolaeth; ni roir i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst.

7. Dwylo'r tystion sydd i daflu'r garreg gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo'r holl boblogaeth wedyn; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.

8. Os cei yn dy dref achos llys sy'n rhy ddyrys iti, megis dyfarnu rhwng dwy blaid mewn achos o ddial gwaed, neu hawl, neu ymosod, yna dos yn ddi-oed i'r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis,

9. a gofyn yno i'r offeiriaid o Lefiaid, ac i'r barnwr a fydd yn y dyddiau hynny, roi'r ddedfryd iti.

10. Gwna fel y byddant hwy yn dweud wrthyt yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis, a gofala wneud popeth yn ôl y cyfarwyddyd a roddant iti.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 17