Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 16:6-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. ond yn unig yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw. Yno yr wyt i ladd offrwm y Pasg gyda'r hwyr, ar fachlud haul, yr amser y daethost allan o'r Aifft.

7. Byddi'n ei ferwi a'i fwyta yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis; yna yn y bore byddi'n troi'n ôl ac yn dychwelyd adref.

8. Am chwe diwrnod byddi'n bwyta bara croyw, ond ar y seithfed dydd bydd cynulliad terfynol i'r ARGLWYDD dy Dduw; nid wyt i wneud dim gwaith arno.

9. Yr wyt i gyfrif saith wythnos, gan ddechrau o'r diwrnod cyntaf y rhoddir y cryman yn yr ŷd.

10. Yna byddi'n dathlu gŵyl yr Wythnosau i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan roi offrwm gwirfodd drosot dy hun yn ôl fel y bydd yr ARGLWYDD wedi dy fendithio.

11. Byddi'n llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti, dy fab a'th ferch, dy gaethwas a'th gaethferch, y Lefiad sydd yn dy drefi a'r dieithryn, a'r amddifad a'r weddw sydd gyda thi, yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.

12. Cofia mai caethwas fuost ti yn yr Aifft, a bydd yn ofalus i gadw'r rheolau hyn.

13. Yr wyt i gadw gŵyl y Pebyll am saith diwrnod wedi iti gasglu cynnyrch dy lawr dyrnu a'th winwryf;

14. a byddi'n llawenhau ar dy ŵyl, ti, dy fab a'th ferch, dy gaethwas a'th gaethferch, y Lefiad a'r dieithryn, a'r amddifad a'r weddw sydd yn dy drefi.

15. Am saith diwrnod y byddi'n cadw gŵyl i'r ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl gynnyrch ac ym mhopeth a wnei, a byddi'n wirioneddol lawen.

16. Teirgwaith y flwyddyn y mae dy holl wrywod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, sef ar ŵyl y Bara Croyw, ar ŵyl yr Wythnosau ac ar ŵyl y Pebyll. Nid yw neb i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD yn waglaw,

17. ond dylai pob un roi yn ôl ei allu, yn ôl y fendith a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.

18. Yr wyt i benodi barnwyr a phenaethiaid ym mhob un o'r trefi a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i'th lwythau, ac y maent i farnu'r bobl yn gyfiawn.

19. Nid wyt i wyro barn na dangos ffafriaeth; nid wyt i gymryd llwgrwobr, oherwydd y mae'n dallu llygaid y doeth ac yn gwyro geiriau'r cyfiawn.

20. Cyfiawnder yn unig a ddilyni, er mwyn iti gael byw ac etifeddu'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw am ei rhoi iti.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 16