Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 12:18-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Rhaid iti fwyta'r rheini gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, yn y man y bydd ef yn ei ddewis; dyna a wnei di, dy fab, dy ferch, dy was, dy forwyn, a'r Lefiaid sydd yn dy drefi, a llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth a wnei.

19. Gwylia rhag esgeuluso'r Lefiaid tra byddi byw yn dy dir.

20. Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn helaethu dy derfynau yn ôl ei addewid iti, a chwant bwyd yn dod arnat a thithau'n dweud, “Yr wyf am fwyta cig”, cei fwyta faint a fynni.

21. Os bydd y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis i osod ei enw yno yn bell oddi wrthyt, cei ladd un o'th wartheg neu o'th ddefaid a roes yr ARGLWYDD iti, fel y gorchmynnais iti, a bwyta yn dy drefi gymaint ag a fynni.

22. Cei fwyta ohono fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r glân fel ei gilydd ei fwyta.

23. Ond gofalwch beidio â bwyta'r gwaed, oherwydd y gwaed yw'r bywyd, ac nid wyt i fwyta'r bywyd gyda'r cig.

24. Ni chei ei fwyta; yr wyt i'w dywallt fel dŵr ar y ddaear.

25. Paid â'i fwyta, fel y byddo'n dda arnat ti a'th blant ar dy ôl, am iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

26. Ond am y pethau sydd gennyt i'w cysegru, a'th addunedau, cymer hwy a dos i'r man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis,

27. ac abertha dy boethoffrymau, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw; y mae gwaed dy ebyrth i'w dywallt ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw, ond cei fwyta'r cig.

28. Gofala wrando ar yr holl eiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti, fel y byddo'n dda arnat ti a'th blant ar dy ôl hyd byth, am iti wneud yr hyn sy'n dda ac yn iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD dy Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 12