Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 10:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yr adeg honno neilltuodd yr ARGLWYDD lwyth Lefi i gario arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i sefyll gerbron yr ARGLWYDD i'w wasanaethu, a bendithio yn ei enw, fel y gwnânt hyd heddiw.

9. Dyna pam nad oes gan Lefi ran nac etifeddiaeth gyda'i gymrodyr; yr ARGLWYDD yw ei etifeddiaeth, fel yr addawodd yr ARGLWYDD dy Dduw iddo.

10. Fel y tro cyntaf, arhosais ar y mynydd am ddeugain diwrnod a deugain nos; gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf fel y gwnaeth yr adeg honno, oherwydd nid oedd yr ARGLWYDD yn dymuno eich difa.

11. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cod ac arwain y bobl er mwyn iddynt fynd i feddiannu'r wlad y tyngais i'w hynafiaid y byddwn yn ei rhoi iddynt.”

12. Yn awr, O Israel, beth y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gennyt? Dy fod yn ofni'r ARGLWYDD dy Dduw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i garu, a gwasanaethu'r ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid;

13. dy fod hefyd yn cadw ei orchmynion a'i ddeddfau yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw, fel y byddo'n dda arnat.

14. Edrych, eiddo'r ARGLWYDD dy Dduw yw'r nefoedd a nef y nefoedd, hefyd y ddaear a'r cyfan sydd arni.

15. Ond rhoddodd yr ARGLWYDD ei serch ar dy hynafiaid ac fe'u carodd, a dewis eu disgynyddion ar eu hôl; ie, eich dewis chwi o blith yr holl bobloedd, fel y mae'n gwneud heddiw.

16. Yn awr, enwaedwch eich calonnau, a pheidiwch â bod yn ystyfnig eto.

17. Oherwydd yr ARGLWYDD eich Duw yw Duw y duwiau ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn ac ofnadwy; nid yw'n dangos ffafriaeth nac yn cymryd llwgrwobr.

18. Y mae'n gwneud cyfiawnder â'r amddifad a'r weddw, yn caru'r dieithr, ac yn rhoi iddynt fwyd a dillad.

19. Yr ydych chwithau i garu'r dieithryn, gan ichwi fod yn ddieithriaid yng ngwlad yr Aifft.

20. Yr wyt i ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a'i wasanaethu; yr wyt i lynu wrtho ac i dyngu yn ei enw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 10