Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 9:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gweddïais ar yr ARGLWYDD fy Nuw a chyffesu a dweud, “O Arglwydd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,

5. yr ydym wedi pechu a gwneud camwedd a drwg, ac wedi gwrthryfela ac anwybyddu d'orchmynion a'th ddeddfau.

6. Ni wrandawsom ar dy weision y proffwydi, a fu'n llefaru yn dy enw wrth ein brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, ac wrth holl bobl y wlad.

7. I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder; ond heddiw fel erioed, cywilydd sydd i ni, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem a holl Israel, yn agos ac ymhell, ym mhob gwlad lle'r alltudiwyd hwy am iddynt dy fradychu.

8. O ARGLWYDD, cywilydd sydd i ni, i'n brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, am inni bechu yn dy erbyn.

9. Ond y mae trugaredd a maddeuant gan yr Arglwydd ein Duw, er inni wrthryfela yn ei erbyn

10. a gwrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw i ddilyn ei gyfreithiau, a roddodd inni trwy ei weision y proffwydi.

11. Y mae holl Israel wedi torri dy gyfraith a gwrthod gwrando ar dy lais; ac am inni bechu yn ei erbyn tywalltwyd arnom y felltith a'r llw sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gwas Duw.

12. Cyflawnodd yr hyn a ddywedodd amdanom ni ac am ein barnwyr trwy ddwyn dinistr mawr arnom, oherwydd ni ddigwyddodd yn unman ddim tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Jerwsalem.

13. Daeth y dinistr hwn arnom, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses; eto nid ydym wedi ymbil ar yr ARGLWYDD ein Duw trwy droi oddi wrth ein camweddau ac ystyried dy wirionedd di.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 9