17. “Pedwar brenin yn codi o'r ddaear yw'r pedwar bwystfil.
18. Ond bydd saint y Goruchaf yn derbyn y frenhiniaeth ac yn ei meddiannu'n oes oesoedd.”
19. Yna dymunais wybod ystyr y pedwerydd bwystfil, a oedd yn wahanol i'r lleill i gyd, yn arswydus iawn, a chanddo ddannedd o haearn a chrafangau o bres, yn bwyta ac yn malu ac yn sathru'r gweddill dan ei draed;
20. a hefyd ystyr y deg corn ar ei ben, a'r corn arall a gododd, a thri yn syrthio o'i flaen—y corn ac iddo lygaid, a cheg yn traethu balchder ac yn gwneud mwy o ymffrost na'r lleill.
21. Dyma'r corn a welais yn rhyfela yn erbyn y saint ac yn eu trechu,
22. hyd nes i'r Hen Ddihenydd ddyfod a dyfarnu o blaid saint y Goruchaf, ac i'r saint feddiannu'r deyrnas.
23. Dyma'i ateb: “Pedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear yw'r pedwerydd bwystfil. Bydd hi'n wahanol i'r holl freniniaethau eraill; bydd yn ysu'r holl ddaear, ac yn ei sathru a'i malu.
24. Saif y deg corn dros ddeg brenin a fydd yn codi; daw un arall ar eu hôl, yn wahanol i'r lleill, ac yn darostwng tri brenin.
25. Bydd yn herio'r Goruchaf ac yn llethu saint y Goruchaf, ac yn cynllunio i newid y gwyliau a'r gyfraith; a chaiff awdurdod drostynt am dymor a thymhorau a hanner tymor.