Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 7:16-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Euthum at un o'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl, a gofynnais iddo beth oedd ystyr hyn i gyd. Atebodd yntau a rhoi dehongliad o'r cyfan imi:

17. “Pedwar brenin yn codi o'r ddaear yw'r pedwar bwystfil.

18. Ond bydd saint y Goruchaf yn derbyn y frenhiniaeth ac yn ei meddiannu'n oes oesoedd.”

19. Yna dymunais wybod ystyr y pedwerydd bwystfil, a oedd yn wahanol i'r lleill i gyd, yn arswydus iawn, a chanddo ddannedd o haearn a chrafangau o bres, yn bwyta ac yn malu ac yn sathru'r gweddill dan ei draed;

20. a hefyd ystyr y deg corn ar ei ben, a'r corn arall a gododd, a thri yn syrthio o'i flaen—y corn ac iddo lygaid, a cheg yn traethu balchder ac yn gwneud mwy o ymffrost na'r lleill.

21. Dyma'r corn a welais yn rhyfela yn erbyn y saint ac yn eu trechu,

22. hyd nes i'r Hen Ddihenydd ddyfod a dyfarnu o blaid saint y Goruchaf, ac i'r saint feddiannu'r deyrnas.

23. Dyma'i ateb: “Pedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear yw'r pedwerydd bwystfil. Bydd hi'n wahanol i'r holl freniniaethau eraill; bydd yn ysu'r holl ddaear, ac yn ei sathru a'i malu.

24. Saif y deg corn dros ddeg brenin a fydd yn codi; daw un arall ar eu hôl, yn wahanol i'r lleill, ac yn darostwng tri brenin.

25. Bydd yn herio'r Goruchaf ac yn llethu saint y Goruchaf, ac yn cynllunio i newid y gwyliau a'r gyfraith; a chaiff awdurdod drostynt am dymor a thymhorau a hanner tymor.

26. Yna bydd y llys yn eistedd, a dygir ymaith ei arglwyddiaeth, i'w distrywio a'i difetha'n llwyr.

27. A rhoddir y frenhiniaeth a'r arglwyddiaeth, a gogoniant pob brenhiniaeth dan y nef, i bobl saint y Goruchaf. Brenhiniaeth dragwyddol fydd eu brenhiniaeth hwy, a bydd pob teyrnas yn eu gwasanaethu ac yn ufuddhau iddynt.”

28. Dyma ddiwedd yr hanes; ac yr oeddwn i, Daniel, wedi fy nghynhyrfu'n fawr ac yn welw, ond cedwais y pethau hyn i mi fy hun.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 7