Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 6:16-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Felly gorchmynnodd y brenin iddynt ddod â Daniel, a'i daflu i ffau'r llewod; ond dywedodd wrth Daniel, “Bydded i'th Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub.”

17. Yna daethant â maen, a'i osod ar geg y ffau, a seliodd y brenin ef â'i sêl ei hun a sêl ei bendefigion, rhag bod unrhyw newid ar y dyfarniad yn erbyn Daniel.

18. Dychwelodd y brenin i'w balas a threulio'r noson mewn ympryd; ni ddaethpwyd â merched ato, ac ni allai gysgu.

19. Yn y bore, ar doriad gwawr, cododd y brenin a mynd ar frys at ffau'r llewod.

20. Wedi iddo gyrraedd y ffau, galwodd ar Daniel mewn llais pryderus a dweud, “Daniel, gwas y Duw byw, a fedrodd dy Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub rhag y llewod?”

21. Atebodd Daniel y brenin, “O frenin, bydd fyw byth!

22. Anfonodd fy Nuw ei angel, a chau safn y llewod fel na wnaethant niwed i mi, am fy mod yn ddieuog yn ei olwg; ni wneuthum niwed i tithau chwaith, O frenin.”

23. Gorfoleddodd y brenin, a gorchymyn rhyddhau Daniel o'r ffau. A phan gafodd ei ryddhau, nid oedd unrhyw niwed i'w weld arno, am iddo ymddiried yn ei Dduw.

24. Ac ar orchymyn y brenin, daethant â'r rhai oedd wedi cyhuddo Daniel, a'u taflu i ffau'r llewod, hwy a'u plant a'u gwragedd, a chyn iddynt gyrraedd gwaelod y ffau yr oedd y llewod wedi eu llarpio ac wedi malu eu hesgyrn yn chwilfriw.

25. Yna ysgrifennodd y Brenin Dareius at yr holl bobloedd, o bob cenedl ac iaith trwy'r byd i gyd, “Heddwch fo i chwi!

26. Yr wyf yn gorchymyn fod pawb ym mhob talaith o'm teyrnas i ofni a pharchu Duw Daniel.”“Ef yw'r Duw byw, y tragwyddol;ni ddinistrir ei frenhiniaeth, a phery ei arglwyddiaeth byth.

27. Y mae'n achub ac yn gwaredu,yn gwneud arwyddion a rhyfeddodauyn y nefoedd ac ar y ddaear;ef a achubodd Daniel o afael y llewod.”

28. A llwyddodd y Daniel hwn yn ystod teyrnasiad Dareius a theyrnasiad Cyrus y Persiad.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 6