Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 5:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Galwodd y brenin am y swynwyr a'r Caldeaid a'r sêr-ddewiniaid, ac meddai wrth ddoethion Babilon, “Os medr unrhyw un ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, caiff hwnnw wisg borffor, a chadwyn aur am ei wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas.”

8. Yna daeth doethion y brenin ato, ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen na'i dehongli i'r brenin.

9. Felly cynhyrfodd y Brenin Belsassar yn enbyd, a gwelwi, ac yr oedd ei dywysogion yn yr un dryswch.

10. Wrth glywed sŵn y brenin a'i dywysogion, daeth y frenhines i'r ystafell fwyta a dweud, “O frenin, bydd fyw byth! Paid ag edrych mor gynhyrfus a gwelw.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 5