6. Yna gwelwodd y brenin mewn dychryn, ac aeth ei gymalau'n llipa a'i liniau'n grynedig.
7. Galwodd y brenin am y swynwyr a'r Caldeaid a'r sêr-ddewiniaid, ac meddai wrth ddoethion Babilon, “Os medr unrhyw un ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, caiff hwnnw wisg borffor, a chadwyn aur am ei wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas.”
8. Yna daeth doethion y brenin ato, ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen na'i dehongli i'r brenin.
9. Felly cynhyrfodd y Brenin Belsassar yn enbyd, a gwelwi, ac yr oedd ei dywysogion yn yr un dryswch.
10. Wrth glywed sŵn y brenin a'i dywysogion, daeth y frenhines i'r ystafell fwyta a dweud, “O frenin, bydd fyw byth! Paid ag edrych mor gynhyrfus a gwelw.
11. Y mae gŵr yn dy deyrnas sy'n llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd, ac yn amser dy dad dangosodd oleuni a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau; a gwnaed ef gan dy dad, y Brenin Nebuchadnesar, yn ben ar y dewiniaid a'r swynwyr a'r Caldeaid a'r sêr-ddewiniaid.
12. Gan fod yn Daniel, a alwodd y brenin yn Beltesassar, ysbryd ardderchog, a deall a dirnadaeth, a'r gallu i ddehongli breuddwydion ac esbonio dirgelion a datrys problemau, anfon yn awr am Daniel; gall ef roi dehongliad.”
13. Yna daethpwyd â Daniel at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo, “Ai ti yw Daniel, un o'r caethgludion a ddug fy nhad, y brenin, o Jwda?
14. Rwy'n clywed fod ysbryd y duwiau ynot a'th fod yn llawn o oleuni a deall a doethineb ragorol.
15. Er i'r doethion a'r swynwyr ddod yma i ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, nid ydynt yn medru rhoi dehongliad ohoni.
16. Ond rwy'n clywed dy fod ti'n gallu rhoi dehongliadau a datrys problemau. Yn awr os medri ddarllen yr ysgrifen a'i dehongli i mi, cei wisg borffor, a chadwyn aur am dy wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas.”
17. Yna atebodd Daniel y brenin, “Cei gadw d'anrhegion, a rhoi dy wobrwyon i eraill, ond fe ddarllenaf yr ysgrifen a'i dehongli i'r brenin.
18. Rhoes y Duw Goruchaf frenhiniaeth a mawredd a gogoniant ac urddas i'th dad Nebuchadnesar.