17. Yna atebodd Daniel y brenin, “Cei gadw d'anrhegion, a rhoi dy wobrwyon i eraill, ond fe ddarllenaf yr ysgrifen a'i dehongli i'r brenin.
18. Rhoes y Duw Goruchaf frenhiniaeth a mawredd a gogoniant ac urddas i'th dad Nebuchadnesar.
19. Ac oherwydd y mawredd a roed iddo, yr oedd yr holl bobloedd, cenhedloedd ac ieithoedd yn crynu mewn ofn o'i flaen. Gallai ladd neu gadw'n fyw, dyrchafu neu ddarostwng y neb a fynnai.
20. Ond pan ymffrostiodd a mynd yn falch, fe'i diorseddwyd a chymerwyd ei ogoniant oddi arno.
21. Gyrrwyd ef o ŵydd pobl, rhoddwyd iddo galon anifail, ac yr oedd ei gartref gyda'r asynnod gwylltion. Yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ac yr oedd ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, nes iddo wybod mai'r Duw Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.
22. Ond amdanat ti, ei fab Belsassar, er iti wybod hyn oll, ni ddarostyngaist dy hun.
23. Yr wyt wedi herio Arglwydd y Nefoedd trwy ddod â llestri ei dŷ ef o'th flaen, a thithau a'th dywysogion a'th wragedd a'th ordderchwragedd yn yfed gwin ohonynt. Yr wyt wedi moliannu duwiau o arian ac aur, o bres a haearn, o bren a charreg, nad ydynt yn clywed dim, nac yn gweld nac yn gwybod; ac nid wyt wedi mawrhau'r Duw y mae d'einioes a'th ffyrdd yn ei law.
24. Dyna pam yr anfonwyd y llaw i ysgrifennu'r geiriau hyn.
25. Fel hyn y mae'r ysgrifen yn darllen: ‘Mene, Mene, Tecel, Wparsin.’
26. A dyma'r dehongliad. ‘Mene’: rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnasiad, a daeth ag ef i ben.
27. ‘Tecel’: pwyswyd di yn y glorian, a'th gael yn brin.
28. ‘Peres’: rhannwyd dy deyrnas, a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid.”
29. Yna, ar orchymyn Belsassar, cafodd Daniel wisg borffor, a chadwyn o aur am ei wddf, a'i benodi yn drydydd llywodraethwr yn y deyrnas.
30. A'r noson honno lladdwyd Belsassar, brenin y Caldeaid.