Daniel 3:27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Pan ddaeth tywysogion, penaethiaid, pendefigion a chynghorwyr y brenin at ei gilydd, gwelsant nad oedd y tân wedi cyffwrdd â chyrff y tri. Nid oedd gwallt eu pen wedi ei ddeifio, na'u dillad wedi eu llosgi, ac nid oedd arogl tân arnynt.