Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 3:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwnaeth y Brenin Nebuchadnesar ddelw aur drigain cufydd o uchder a chwe chufydd o led, a'i gosod yng ngwastadedd Dura yn nhalaith Babilon.

2. A gwysiodd y Brenin Nebuchadnesar y tywysogion, y penaethiaid, y pendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y barnwyr, y cyfreithwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau i ddod ynghyd i gysegru'r ddelw a wnaeth y Brenin Nebuchadnesar.

3. Yna daeth y tywysogion, y penaethiaid, y pendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y barnwyr, y cyfreithwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau at ei gilydd i gysegru'r ddelw a wnaeth Nebuchadnesar, a sefyll o'i blaen.

4. Gwaeddodd y cyhoeddwr yn uchel, “Dyma'r gorchymyn i chwi bobloedd, genhedloedd ac ieithoedd.

5. Pan glywch sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r fagbib, a phob math o offeryn, syrthiwch ac addoli'r ddelw aur a wnaeth y Brenin Nebuchadnesar.

6. Pwy bynnag sy'n gwrthod syrthio ac addoli, caiff ei daflu ar unwaith i ganol ffwrn o dân poeth.”

7. Felly, cyn gynted ag y clywodd yr holl bobl sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, syrthiodd y bobloedd a'r cenhedloedd a'r ieithoedd ac addoli'r ddelw aur a wnaeth Nebuchadnesar.

8. Dyna'r adeg y daeth rhai o'r Caldeaid â chyhuddiad yn erbyn yr Iddewon,

9. a dweud wrth y Brenin Nebuchadnesar, “O frenin, bydd fyw byth!

10. Rhoddaist orchymyn, O frenin, fod pawb a glywai sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, i syrthio ac addoli'r ddelw aur,

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 3