Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 2:10-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Atebodd y Caldeaid, “Nid oes neb ar wyneb daear a all fynegi'r hyn y mae'r brenin yn ei ofyn, oherwydd nid yw'r un brenin o fri ac awdurdod wedi gofyn cwestiwn fel hwn i ddewin na swynwr na Chaldead.

11. Y mae'r brenin wedi gofyn cwestiwn dyrys na all neb ei ateb ond y duwiau, nad ydynt yn byw ym myd y cnawd.”

12. Yna llidiodd y brenin a chynddeiriogi, a gorchymyn difa holl ddoethion Babilon.

13. Cyhoeddwyd dedfryd fod y doethion i'w lladd; a chwiliwyd am Daniel a'i gyfeillion, i'w lladd hwythau.

14. Ymresymodd Daniel yn ddoeth a phwyllog ag Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, pan ddaeth i ladd y doethion.

15. Dywedodd wrtho, “Ti, gennad y brenin, pam y mae dedfryd y brenin mor chwyrn?”

16. Eglurodd Arioch y cyfan i Daniel, ac aeth Daniel at y brenin a gofyn am amser, iddo gael cyfle i fynegi'r dehongliad iddo.

17. Yna aeth Daniel i'w dŷ ac adrodd yr hanes wrth ei gyfeillion, Hananeia, Misael ac Asareia,

18. a'u hannog hwy i erfyn am drugaredd gan Dduw'r nefoedd ynglŷn â'r dirgelwch hwn, rhag i Daniel a'i gyfeillion gael eu difa gyda'r gweddill o ddoethion Babilon.

19. Datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos. Bendithiodd Daniel Dduw'r nefoedd, a dyma'i eiriau:

20. “Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd;eiddo ef yw doethineb a nerth.

21. Ef sy'n newid amserau a thymhorau,yn diorseddu brenhinoedd a'u hadfer,yn rhoi doethineb i'r doeth a gwybodaeth i'r deallus.

22. Ef sy'n datguddio pethau dwfn a chuddiedig,yn gwybod yr hyn sydd yn dywyll;gydag ef y trig goleuni.

23. Diolchaf a rhof fawl i ti, O Dduw fy hynafiaid,am i ti roi doethineb a nerth i mi.Dangosaist i mi yn awr yr hyn a ofynnwyd gennym,a rhoi gwybod inni beth sy'n poeni'r brenin.”

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 2